SUT I ARBED ARIAN GYDAG UN NEWID I OSODIADAU EICH BOELER
Gall troi tymheredd llif eich boeler combi i lawr i 60°c neu’n is dynnu £££ oddi ar eich bil gwresogi bob blwyddyn a lleihau gwastraff ynni o’ch cartref.

250,000
DYNA FAINT O BOBL SYDD WEDI TROI TYMHEREDD LLIF EU BOELER I LAWR
Os byddai 10 miliwn o aelwydydd yn troi tymheredd llif eu boeleri combi i lawr i 60°c neu’n is, gallai hyn dynnu £1biliwn oddi ar filiau ynni’r Deyrnas Unedig ac arbed 1.7 miliwn tunnell o allyriadau carbon – gyfwerth â bron chwe miliwn taith ar draws yr Iwerydd mewn awyren.
PAM DYLWN I WNEUD HYN? RHESYMAU DROS YMUNO Â’R HER ARBED ARIAN BOELERI



PAM MAE HYN YN BWYSIG?
Mae nifer o foeleri combi yn llosgi mwy o nwy, yn cynhyrchu mwy o allyriadau carbon ac yn costio mwy i aelwydydd yn ddiangen. Gallai pobl fod yn arbed ynni ac arian yn syml drwy sicrhau bod eu boeleri yn gweithredu mor effeithlon â phosibl. Ond nid yw llawer o bobl yn ymwybodol y gallant newid osodiadau eu boeler.
Ar hyn o bryd, gallai aelwyd arferol arbed oddeutu £112 y flwyddyn ar eu bil gwresogi drwy leihau tymheredd llif eu boeler. Mae gwresogi cartrefi gyda thanwydd ffosil yn gyfrifol am 15% o allyriadau carbon y Deyrnas Unedig. Felly, drwy ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon, gallwn leihau allyriadau carbon ac arbed arian ar ein biliau gwresogi ar yr un pryd.

CWESTIYNAU CYFFREDIN
-
Sut mae’n gweithio?
Mae boeleri combi yn gweithio orau wrth wresogi’r dŵr sy’n mynd i’r rheiddiaduron i 60°C neu’n is (gelwir hyn yn ‘dymheredd llif’).
Mae tymheredd llif mwyafrif y boeleri yn y Deyrnas Unedig wedi’u gosod lawer yn uwch na 60°C (70-80°C yn aml).
Mae tymheredd llif o 60°C yn golygu y bydd eich boeler combi yn y modd cyddwyso. Pan mae eich boeler combi yn y modd cyddwyso bydd yn adfer gwres a fyddai fel arall yn cael ei golli, fel ei fod yn gweithredu’n fwy effeithlon.
-
Beth yw tymheredd llif boeler?
Y tymheredd llif yw’r tymheredd mae’r boeler yn gwresogi dŵr iddo cyn ei bwmpio o amgylch rheiddiaduron eich cartref.
Ni fydd newid tymheredd llif boeler combi yn effeithio ar dymheredd y dŵr poeth o’ch tapiau a’ch cawod.
-
Ydw i’n gallu gwneud hyn os oes gen i danc dŵr poeth?
Gwaetha’r modd ni allwn awgrymu eich bod yn lleihau tymheredd llif eich boeler os oes gennych danc dŵr.
Ar hyn o bryd, nid yw ein canllaw yn trafod systemau gwres canolog sydd â thanc dŵr poeth. Gallwch ddarllen mwy am hyn yn Which.co.uk