Skip to main content

CWESTIYNAU CYFFREDIN

  • Sut mae’n gweithio?

    Mae boeleri combi yn gweithio orau wrth wresogi’r dŵr sy’n mynd i’r rheiddiaduron i 60°C neu’n is (gelwir hyn yn ‘dymheredd llif’).

    Mae tymheredd llif mwyafrif y boeleri yn y Deyrnas Unedig wedi’u gosod lawer yn uwch na 60°C (70-80°C yn aml).

    Mae tymheredd llif o 60°C yn golygu y bydd eich boeler combi yn y modd cyddwyso. Pan mae eich boeler combi yn y modd cyddwyso bydd yn adfer gwres a fyddai fel arall yn cael ei golli, fel ei fod yn gweithredu’n fwy effeithlon.

  • Beth yw tymheredd llif boeler?

    Y tymheredd llif yw’r tymheredd mae’r boeler yn gwresogi dŵr iddo cyn ei bwmpio o amgylch rheiddiaduron eich cartref.

    Ni fydd newid tymheredd llif boeler combi yn effeithio ar dymheredd y dŵr poeth o’ch tapiau a’ch cawod.

  • Ydw i’n gallu gwneud hyn os oes gen i danc dŵr poeth?

    Gwaetha’r modd ni allwn awgrymu eich bod yn lleihau tymheredd llif eich boeler os oes gennych danc dŵr.

    Ar hyn o bryd, nid yw ein canllaw yn trafod systemau gwres canolog sydd â thanc dŵr poeth. Gallwch ddarllen mwy am hyn yn Which.co.uk

  • Sut ydw i’n newid tymheredd llif y boeler?

    Defnyddiwch yr offeryn cam wrth gam ar-lein syml yma gennym ni, i ostwng tymheredd llif eich boeler.

    Os ydych yn cael trafferth addasu’r gosodiadau gan ddefnyddio’n hofferyn, mae gan freeboilermanuals.com gatalog o lawlyfrau. Gallwch chwilio yn ôl enw gwneuthurwyr a model eich boeler, neu rif GC eich boeler. Mae gan bob boeler rif GC, ac fel arfer fe’i gwelir ar flaen y boeler. Mae’n dechrau gyda ‘GC’ wedyn rhif saith digid. Yn y llawlyfr, bydd canllaw i addasu’r tymheredd llif.

  • Pam dylwn i osod y tymheredd llif i 60 gradd?

    Mae tymheredd llif o 60°C yn golygu y bydd eich boeler combi yn y modd cyddwyso. Pan mae eich boeler yn y modd cyddwyso bydd yn adfer gwres a fyddai fel arall yn cael ei golli, a bydd yn gweithredu’n fwy effeithlon. 

    Gallwch roi cynnig ar dymheredd is na 60°C. Po isaf y gosodiad, mwyaf yr arbedion. Ceisiwch leihau’r tymheredd eto fesul 5°C. Gallwch hefyd ostwng y tymheredd llif eto yn y gwanwyn a’i gynyddu yn y misoedd oerach.

  • Faint o arian fydda i’n ei arbed?

    Gallai aelwyd arferol arbed hyd at £65 y flwyddyn mewn costau ynni drwy addasu gosodiadau llif y boeler i 60°C neu’n is.

    Rydym yn amcangyfrif y byddai aelwyd ganolig ei maint (treuliant nwy blynyddol o ~11,500 kWh) yn lleihau ei threuliant nwy blynyddol 8% wrth ostwng tymheredd llif o 75°C i 60°C. Mae’r arbediad hwn gyfwerth â 940 kWh o nwy, sydd, am 6.91c fesul kWh o nwy, yn £65. 

    Mae aelwyd defnydd mawr yn defnyddio 17,000 kWh o nwy bob blwyddyn. Mae hyn gyfwerth ag arbediad o £94 y flwyddyn wrth leihau tymheredd llif o 75°C i 60°C.

  • Pam fod fy rheiddiaduron yn oerach nag o’r blaen?

    Am fod y boeler yn gwresogi’r dŵr yn eich rheiddiaduron oddeutu 60°C, mae’n bosib y byddant yn teimlo’n oerach na chyn i chi ei newid. Mae hyn i’w ddisgwyl – byddant yn parhau i wresogi’ch cartref yn effeithiol ond gallai ystafelloedd gymryd ychydig yn hwy i gynhesu (gweler isod).

  • Pam fod fy nghartref yn cymryd yn hwy i gynhesu?

    Am fod eich rheiddiaduron yn oerach, bydd eich cartref yn cymryd ychydig yn hwy i gynhesu. I nifer o bobl, ni fydd y gwahaniaeth hwn yn amlwg.  

    Os byddwch yn teimlo bod eich ystafelloedd yn cymryd yn hwy i wresogi, gallwch geisio codi’r tymheredd llif 5°C. 

  • Pam fod fy nghartref yn teimlo’n oerach na chyn i mi newid y gosodiad?

    Os yw eich cartref yn arbennig o ddrafftiog neu heb inswleiddiad digonol, gallwch ganfod bod lleihau tymheredd llif eich boeler yn golygu ystafelloedd oerach.

    Os ydych eisoes wedi ceisio gosod eich gwres i gychwyn 15 i 30 munud yn gynharach nag arfer, gallwch geisio codi’r tymheredd llif 5°C. Gadewch ef ar y gosodiad newydd hwn am ychydig ddyddiau i weld a fydd eich cyfforddusrwydd yn gwella. Gallwch barhau i wneud hyn hyd i chi ganfod tymheredd sy’n gweithio ar eich cyfer chi a’ch cartref.

  • A ddylwn i fynd yn is na 60 gradd?

    Gellir gwresogi nifer o gartrefi gyda thymheredd llif o 55°C neu’n is. Po isaf y gosodiad, mwyaf yr arbedion. 

    Ceisiwch leihau’r tymheredd eto fesul 5°C. Gallwch hefyd ostwng y tymheredd llif eto yn y gwanwyn a dechrau’r hydref (e.e. i 50°C) a’i gynyddu yn y misoedd oerach. Darllen mwy am hyn yn ein postiad blog.

  • Beth am ddefnyddwyr diamddiffyn a phobl â chyflyrau iechyd?

    Os oes unrhyw un ar eich aelwyd yn arbennig o ddiamddiffyn mewn tymereddau oerach, mae’n bosib y byddwch yn dymuno gosod y tymheredd llif ychydig yn uwch na 60°C. Mae hyn am y gall tymheredd llif is achosi i rai ystafelloedd wresogi’n arafach nag o’r blaen.  

    Ymhlith y cyflyrau y gallai hyn effeithio arnynt mae asthma, cyflyrau’r galon, arthritis, osteoporosis a ffibromyalgia. Mae’n bosib y byddwch am sicrhau bod rhywun ar eich aelwyd yn gallu codi’r tymheredd llif os oes angen.

  • A yw gostwng tymheredd llif boeler combi yn cynyddu’r risg o glefyd y lleng filwyr?

    Rhaid gwresogi dŵr wedi’i storio’n rheolaidd i 60°C neu’n uwch i leihau’r risg o glefyd y lleng filwyr. Mae boeleri combi yn darparu dŵr poeth ar alw, felly nid yw’r dŵr yn cael ei storio mewn tanc. I fod yn ddiogel, mae ein hymgyrch yn canolbwyntio ar droi tymheredd y dŵr sydd yn y rheiddiaduron (tymheredd llif y boeler) i lawr, nid tymheredd y dŵr sy’n dod o’r tap. Ni fydd newid tymheredd llif eich boeler combi yn effeithio ar y risg o glefyd y lleng filwyr.

  • A fydd gostwng tymheredd llif y boeler yn effeithio ar y gwasgedd dŵr?

    Nid effeithir ar y gwasgedd dŵr wrth droi eich boeler i lawr.