Skip to main content

Y DYSTIOLAETH: PAM MAE NEWID TYMHEREDD LLIF BOELER YN LLEIHAU DEFNYDD YNNI?

Nod yr Her Arbed Arian Boeleri yw helpu cartrefi i arbed arian ac ynni trwy newid un gosodiad ar eu boeler combi

Mae’r Her yn seiliedig ar ymchwil helaeth gan Nesta, asiantaeth arloesi’r Deyrnas Unedig ar gyfer lles cymdeithasol, sy’n dangos bod gostwng tymheredd llif boeleri yn lleihau allyriadau carbon ac yn arbed arian ar filiau ynni.

Mae’r dystiolaeth honno’n dangos y gallai’r cartref cyffredin arbed tua 9% ar gyfanswm ei ddefnydd nwy drwy wneud y newid hwn, gan dybio bod tymheredd llif y boeler wedi’i osod i 80°C ar hyn o bryd. Ar gyfer aelwyd arferol gyda defnydd nwy blynyddol o 12,000 kWh, byddai lleihau’r llif i 60°C yn arbed 1,092 kWh o nwy y flwyddyn sydd, gyda’r prisiau presennol, yn cyfateb i arbediad o £65 y flwyddyn.

Mae’r arbediad o 9% yn y bil nwy, a’r cyngor i ostwng i 60°C yn seiliedig ar ffynonellau lluosog o dystiolaeth. Mae’r ffynonellau hyn yn cynnwys: 

  • Mesur effaith gostwng tymheredd llif yn The Energy House ym Mhrifysgol Salford; tŷ teras dwy ystafell wely traddodiadol o ddechrau’r 20fed ganrif, wedi’i adeiladu mewn siambr amgylcheddol
  • Adolygu’r dystiolaeth bresennol ar effaith lleihau tymheredd llif
  • Amcangyfrif cyfran y cartrefi yn y Deyrnas Unedig a allai ostwng tymereddau llif yn llwyddiannus, yn seiliedig ar waith modelu gan Cambridge Architectural Research

Darllenwch fwy am y dystiolaeth yn y crynodeb hwn.