Skip to main content

TELERAU DEFNYDDIO

Nesta sy’n berchen ar y wefan hon ac yn ei gweithredu – gallwch ddod o hyd i’n manylion llawn isod. Mae defnyddio’r wefan yn amodol ar y Telerau hyn. Mae Ein Hysbysiad Preifatrwydd yn esbonio sut rydym yn defnyddio gwybodaeth bersonol mae’n bosib y byddwn yn ei chasglu drwy’r wefan. Os nad ydych yn cytuno â’r Telerau hyn neu ein Polisi Preifatrwydd, peidiwch â defnyddio’r wefan hon.

1. Mae’r wybodaeth, y deunyddiau a’r logos ar y wefan hon yn perthyn i Nesta, ein partneriaid neu drwyddedwyr. Nid ydym yn gwneud unrhyw gynrychiolaeth na gwarant am y cynnwys, gan gynnwys mewn perthynas â pheidio â thorri hawliau eiddo deallusol.

2. Bwriad cynnwys y wefan yw rhoi gwybodaeth yn unig ac ni fydd Nesta yn atebol am unrhyw benderfyniadau y byddwch chi neu unrhyw drydydd parti yn eu gwneud o ganlyniad i wylio’r cynnwys. Nid ydym ychwaith yn atebol am unrhyw atebolrwydd sy’n deillio ohonoch yn rhannu’r cynnwys ag unrhyw drydydd parti.

3. Ni all Nesta eich digolledu chi nac unrhyw drydydd parti am unrhyw golled a all ddigwydd i chi o ganlyniad i:

  • gamau gweithredu a gymeroch yn seiliedig ar unrhyw beth y gwnaethoch ei ddarllen ar y tudalennau hyn;
  • unrhyw gamsyniad yng nghynnwys ein gwefan;
  • unrhyw rhan o’r wefan heb fod ar gael neu’n anhygyrch;
  • defnyddio gwefan unrhyw sefydliad y gallwch ei hygyrchu o’n gwefan ni (gan gynnwys prynu oddi wrth y sefydliad hwnnw ac unrhyw ddefnydd y gwna nhw o’r data personol a roddwch iddynt);
  • lawrlwytho unrhyw ddeunydd o unrhyw ran o’n gwefan.

Ni fydd Nesta yn eithrio unrhyw atebolrwydd a allai fod gennym yn yr achos annhebygol lle roeddem yn dwyllodrus neu’n esgeulus ac o ganlyniad yn achosi marwolaeth neu anaf personol mewn cysylltiad â’r wefan hon.

4. Gellir argraffu, copïo neu lawrlwytho holl gynnwys y wefan ar yr amod ei fod at ddefnydd preifat a phersonol defnyddwyr. Ni ddylid defnyddio cynnwys er budd masnachol. Os byddwch yn argraffu, yn copïo, yn llunio dolen, yn uwchlwytho neu’n lawrlwytho’r cynnwys, mae Nesta yn rhoi trwydded anghyfyngol, heb freindal i ddefnyddio’i logo wrth drafod y cynnwys a rhaid i chi nodi Nesta fel crëwr y cynnwys bob tro. Byddwch yn gyfrifol am unrhyw ddifrod i’ch system gyfrifiadurol a allai ddigwydd wrth greu dolen, uwchlwytho neu lawrlwytho unrhyw gynnwys neu unrhyw niwed arall (heblaw fel a nodir fel arall yn y ddogfen hon) a allai godi o ganlyniad i ddefnyddio’r cynnwys.

5. Ni chewch ddefnyddio’r wefan hon:

  • i bostio, rhannu neu drosglwyddo deunydd sy’n anghyfreithlon neu’n torri hawliau unrhyw un arall
  • at unrhyw ddiben masnachol
  • mewn unrhyw ffordd sy’n sarhaus, yn ddifenwol neu’n anweddus neu sy’n aflonyddu neu’n peri gofid i unrhyw un neu’n cyfyngu neu’n atal eu defnydd a’u mwynhad o’r safle neu sy’n niweidio ein henw da fel arall
  • i drosglwyddo firysau meddalwedd neu god a gynlluniwyd i ymyrryd, dinistrio neu beryglu cyfanrwydd meddalwedd cyfrifiadurol, caledwedd neu offer telathrebu

6. Mae Nesta yn gweithredu’r wefan hon at ddibenion rhannu gwybodaeth yn unig ac nid ydym yn gyfrifol am gynnwys sy’n cael ei bostio ar y wefan gan ddefnyddwyr a/neu drydydd partïon. Nid yw unrhyw farn trydydd parti a fynegir o reidrwydd yn farn Nesta neu ein partneriaid. Rydym yn cadw’r hawl i ddileu cynnwys neu derfynu’r wefan yn ôl ein disgresiwn llwyr a heb rybudd.

7. Gall yr wybodaeth ar y wefan hon newid o bryd i’w gilydd ac ni allwn warantu y bydd bob amser yn gywir ac yn gyfredol. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol yr ydych yn cysylltu â hwy o’r wefan hon. Nid ydym yn gwarantu y bydd y wefan bob amser ar gael nac yn rhydd o wallau neu firysau. Chi sy’n gyfrifol am osod meddalwedd gwirio firws i ddiogelu eich caledwedd. Cyn belled ag y bo’n gyfreithiol bosibl, rydym ni a’n partneriaid yn eithrio pob atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod a ddioddefir o ganlyniad i ddefnyddio neu gael mynediad i’n gwefan, boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, a sut bynnag bydd yn codi, gan gynnwys unrhyw golli data neu ddifrod a achosir wrth lawrlwytho cynnwys o’n safle.

8. Gall y Telerau hyn gael eu hamrywio o bryd i’w gilydd. Os byddwch yn defnyddio’r wefan ar ôl i unrhyw newid gael ei wneud, ystyrir eich bod wedi derbyn y newid. Gall telerau ychwanegol fod yn berthnasol i rai rhannau o’r wefan hon, megis ceisiadau am arian grant neu daliad am ddigwyddiadau.

9. Mae’r Telerau hyn yn cael eu llywodraethu gan gyfraith Lloegr a bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth dros unrhyw anghydfod sy’n deillio ohonynt.

Nesta, cwmni cyfyngedig trwy warant a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr gyda rhif cwmni 7706036 a rhif elusen 1144091. Cofrestrwyd fel elusen yn yr Alban, rhif SC042833.

Swyddfa gofrestredig: 58 Victoria Embankment, London EC4Y 0DS.