AM NESTA
Nesta yw asiantaeth arloesedd y Deyrnas Unedig er lles cymdeithasol. Rydym yn dylunio, yn profi ac yn addasu datrysiadau i broblemau mwyaf cymdeithas. Ein tair cenhadaeth yw rhoi dechrau teg i bob plentyn, helpu pobl i fyw bywydau iach, a chreu dyfodol cynaliadwy lle mae’r economi’n gweithio i bobl ac i’r blaned.
Ers dros 20 mlynedd, rydym wedi gweithio i gefnogi, annog ac ysbrydoli arloesedd. Rydym yn gweithio mewn tair rôl: fel partner arloesi sy’n gweithio gyda sefydliadau rheng flaen i ddylunio a phrofi datrysiadau newydd, fel adeiladwr menter sy’n cefnogi busnesau newydd a chyfnod cynnar, ac fel lluniwr systemau gan greu’r amodau ar gyfer arloesi.
Gan harneisio trylwyredd gwyddoniaeth a chreadigedd dylunio, rydym yn gweithio’n ddiflino i newid miliynau o fywydau er gwell.
Pam rydym ni’n cynnal yr ymgyrch hon?
Lansiwyd yr Her Arbed Arian Boeleri i annog cymaint o gartrefi â phosibl i ostwng tymheredd llif eu boeler. Rydym wedi cynnal ymchwil a threialon helaeth i ganfod bod gostwng tymheredd llif boeleri yn lleihau allyriadau carbon ac yn arbed arian ar filiau ynni cartrefi.
Rydym wedi creu offeryn cam wrth gam syml i ddangos i bobl pa mor gyflym a hawdd yw hi i ostwng tymheredd llif boeler. Gwnaethom hefyd lunio offeryn cymorth i roddwyr cyngor i helpu’r bobl hynny y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt.
Mae’r prosiect hwn yn rhan o genhadaeth dyfodol cynaliadwy, Nesta, sy’n ceisio helpu’r DU i leihau allyriadau carbon cartrefi 28% erbyn 2030.
MAE’R CANLLAW CAM WRTH GAM HWN YN ESBONIO SUT I NEWID TYMHEREDD LLIF EICH BOELER
Mae’n gyflym, am ddim ac yn hawdd i’w wneud. Gellir ei newid yn ôl yn syth os oes angen, felly ‘does dim i’w golli o roi cynnig arni.