Skip to main content

Dulliau hawdd ac am ddim o leihau faint o nwy mae eich aelwyd yn ei ddefnyddio

*Roedd y ffigurau hyn yn gywir adeg cyhoeddi’r blog, ond gellir gweld y ffigurau diweddaraf yma.*

10 Hydref 2022

Gyda’r bil ynni cyfartalog bellach yn costio tua £2,500, rydym i gyd yn chwilio am ffyrdd o ostwng ein biliau ynni. Isod ceir rhai dulliau, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, i ostwng eich bil nwy am ddim.

Y pum dull gorau o arbed nwy gartref am ddim

1. Gostyngwch y gosodiadau ar falfiau rheiddiadur thermostatig

Mae falfiau rheiddiadur thermostatig (TRVs) yn falfiau hunanreoleiddio sydd wedi’u gosod ar reiddiaduron sy’n rheoli tymheredd ystafell drwy newid llif y dŵr poeth i’r rheiddiadur. Mae’r falfiau hyn yn cael eu camddefnyddio’n eang fel switshis ymlaen/diffodd. Yn lle hynny, dylid eu gosod i dymheredd is mewn ystafelloedd fel ystafelloedd gwely ac ardaloedd lle nad ydych yn byw i gyflawni’r arbedion mwyaf posibl. 

Gall addasu falfiau nad ydynt yn yr ystafell fyw i 1.5°C yn oerach nag o’r blaen arbed £68 y flwyddyn oddi ar fil nwy nodweddiadol aelwyd arferol. 

Mae gan bob falf ddeial, fel arfer wedi’i rifo o 1 i 5 neu 6. Lle mae falfiau wedi’u gosod ar 4 neu uwch ar hyn o bryd, rydym yn argymell troi’r deial i’r pwynt canol ar bob rheiddiadur heblaw’r ystafell fyw (ee, 3 ar ddeial hyd at 6). Bydd gosodiadau uwch yn gwresogi’r ystafell i dros 18°C, sy’n defnyddio mwy o ynni.

2. Trowch dymheredd llif y boeler ar foeleri combi i lawr i 60°C

Mae gan y mwyafrif o gartrefi’r Deyrnas Unedig foeleri combi (boeleri nwy sy’n darparu gwres a dŵr poeth yn ôl y galw, ac nid oes ganddynt danc dŵr poeth ar wahân). Ar hyn o bryd mae llawer wedi’u gosod gyda thymheredd llif – y tymheredd y mae’r boeler yn gwresogi dŵr sy’n cael ei anfon i’r rheiddiaduron iddo – o 70-80°C. Mae gostwng y tymheredd llif i 60°C neu lai yn gwneud i’r boeler redeg yn fwy effeithlon. 

Mae gostwng tymheredd llif boeler combi o 75°C i 60°C yn arbed £97 y flwyddyn (neu 8% oddi ar eu bil nwy) i aelwyd arferol, os ydych yn fodlon derbyn tymheredd ystafell ychydig yn is.

Mae Nesta wedi creu offeryn ar-lein syml i helpu cartrefi i wneud y newid hwn. Ewch i offeryn Her Arbed Arian Boeleri i gymryd y cam hwn.

3. rowch dymheredd y dŵr poeth ar foeleri combi i lawr i 42°C

Mae boeleri combi hefyd yn galluogi defnyddwyr i reoli tymheredd y dŵr poeth a gyflenwir i dapiau a chawodydd. Mae gostwng tymheredd y dŵr poeth yn lleihau faint o danwydd sydd ei angen i gynhesu’r dŵr.

Gallai troi tymheredd y dŵr poeth i lawr ar foeler combi arbed £26, neu 2% oddi ar y bil nwy, y flwyddyn i aelwyd arferol.

4. Gostyngwch dymheredd y silindr dŵr poeth i 60°C

Gall cartrefi sydd â systemau gwresogi â silindr dŵr poeth ar wahân ostwng tymheredd y silindr ei hun fel nad yw dŵr yn cael ei gynhesu’n ddiangen. Ni ddylid gostwng y tymheredd yn is na 60°C, gan fod bacteria legionella, a all achosi clefyd y llengfilwyr, yn gallu goroesi a thyfu mewn dŵr cynnes sydd wedi’i storio o dan 60°C.

Gallai gosod eich silindr dŵr poeth i 60°C dorri 2% oddi ar ddefnydd nwy aelwyd, neu £26 oddi ar fil nwy nodweddiadol, bob blwyddyn.

5. Diffodd gosodiadau rhagboethi ar foeleri combis

Mae gan rai boeleri combi osodiad rhagboethi sy’n galluogi defnyddwyr i gael dŵr poeth ar unwaith, yn hytrach nag aros ychydig eiliadau i’r tapiau redeg yn boeth. Er mwyn gwneud hyn, mae’r boeler yn tanio’n rheolaidd i gynhesu ychydig bach o ddŵr poeth, hyd yn oed pan nad yw’r tapiau’n cael eu defnyddio. Gall diffodd y gosodiad rhagboethi helpu i arbed rhywfaint o ynni i aelwydydd heb unrhyw gost ychwanegol. Mae The Heating Hub wedi creu rhai cyfarwyddiadau pwrpasol gwych ar sut i ddiffodd y gosodiad hwn ar wahanol fathau o foeleri: Vaillant, Ideal a Worcester.

Gallai diffodd y gosodiad rhagboethi arbed 0.8% neu £10 y flwyddyn oddi ar fil nwy arferol.

Datrysiadau cost isel

Os gallwch fuddsoddi hyd at £300 mewn rhywfaint o dechnoleg glyfar, gallai thermostat clyfar arbed 5.3% (neu hyd at £64) ar fil nwy aelwyd arferol bob blwyddyn. Mae gan fodelau rheolyddion gwresogi mwy newydd, fel Nest fersiwn 3, dechnoleg hyd yn oed yn fwy clyfar a all fodiwleiddio boeleri cydnaws (yn y bôn yn troi’r fflam yn eich boeler i lawr, fel pan fyddwch yn troi’r nwy i lawr ar eich hob). Yn olaf, mae gosod inswleiddiad llofft yn sicr yn werth y drafferth. Ar gyfer tŷ ar wahân heb ychydig o insiwleiddio llofft, gall gwaith DIY i ychwanegu at yr inswleiddiad o 50-100m i 300mm gostio tua £200, ac arbed £81 oddi ar fil nwy blynyddol arferol.

I ddarllen mwy am y canfyddiadau hyn, gallwch ddarllen yr adroddiad llawn ar wefan Nesta.

Sylwch fod y safbwyntiau a’r cyngor yn y blogbost hwn yn cael eu darparu gan Nesta ac nad ydynt i’w priodoli i bartneriaid yr Ymgyrch Arbed Arian Boeleri.