Skip to main content

AMODAU A THELERAU’R OFFERYN OPTIMEIDDIO BOELERI

Nesta yw asiantaeth arloesedd y Deyrnas Unedig er lles cymdeithasol. Rydym yn dylunio, profi ac yn addasu cyflwyno datrysiadau newydd i broblemau mwyaf cymdeithas, gan newid miliynau o fywydau er gwell. Nodau dyfodol cynaliadwy Nesta yw cyflymu datgarboneiddio gweithgareddau aelwydydd yn y Deyrnas Unedig.

Byddwn yn ceisio sicrhau bod yr holl wybodaeth a roddir ar ein gwefan yn gywir, yn ddiweddar ac yn seiliedig ar yr ymchwil, y data a’r feddylfryd diweddaraf sydd ar gael. Rhannwn yn ddidwyll, ond cymerwch amser i wirio bod y cyngor ar ein gwefan yn gweddu i’ch amgylchiadau chi. Wrth lunio unrhyw benderfyniadau, dylech fod yn hyderus eich bod yn deall yn llawn oblygiadau (naill ai ariannol, cyfreithiol neu feddygol) gweithredu mewn modd penodol. 

Bwriad cynnwys y tudalennau hyn yw rhoi gwybodaeth yn unig ac ni fyddwn yn atebol dros unrhyw benderfyniadau a wnewch. Ni all Nesta eich digolledu am unrhyw golled a all ddigwydd i chi o ganlyniad i:

  • gamau gweithredu a gymeroch yn seiliedig ar unrhyw beth y gwnaethoch ei ddarllen ar y tudalennau hyn;
  • unrhyw gamsyniad yng nghynnwys ein gwefan;
  • unrhyw rhan o’r wefan heb fod ar gael neu’n anhygyrch;
  • eich defnydd o wefan unrhyw sefydliad y gallwch ei hygyrchu o’n gwefan ni (gan gynnwys prynu oddi wrth y sefydliad hwnnw ac unrhyw ddefnydd y gwna nhw o’r data personol a roddwch iddynt);
  • lawrlwytho unrhyw ddeunydd o unrhyw ran o’n gwefan;

Ni fydd Nesta yn eithrio unrhyw atebolrwydd a allai fod gennym yn yr achos annhebygol lle roeddem yn dwyllodrus neu’n esgeulus ac o ganlyniad yn achosi marwolaeth neu anaf personol mewn cysylltiad â’r wefan hon.

Gellir argraffu, copïo neu lawrlwytho holl gynnwys y wefan gyhyd ag y bo at ddiben preifat a phersonol. Ni ddylech ddefnyddio unrhyw gynnwys at fudd masnachol. Os byddwch yn argraffu, yn copïo neu’n lawrlwytho’r cynnwys, mae Nesta yn rhoi trwydded anghyfyngol, heb freindal i ddefnyddio’i logo wrth drafod y cynnwys a rhaid i chi nodi Nesta fel crëwr y cynnwys bob tro. Byddwch yn gyfrifol am unrhyw ddifrod i’ch system gyfrifiadurol a allai ddigwydd wrth lawrlwytho unrhyw gynnwys neu unrhyw niwed arall (heblaw fel a nodir fel arall yn y ddogfen hon) a allai godi o ganlyniad i ddefnyddio’r cynnwys.