Dulliau hawdd ac am ddim o leihau faint o nwy mae eich aelwyd yn ei ddefnyddio

*Roedd y ffigurau hyn yn gywir adeg cyhoeddi’r blog, ond gellir gweld y ffigurau diweddaraf yma.*
10 Hydref 2022
Gyda’r bil ynni cyfartalog bellach yn costio tua £2,500, rydym i gyd yn chwilio am ffyrdd o ostwng ein biliau ynni. Isod ceir rhai dulliau, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, i ostwng eich bil nwy am ddim.
Y pum dull gorau o arbed nwy gartref am ddim

1. Gostyngwch y gosodiadau ar falfiau rheiddiadur thermostatig
Mae falfiau rheiddiadur thermostatig (TRVs) yn falfiau hunanreoleiddio sydd wedi’u gosod ar reiddiaduron sy’n rheoli tymheredd ystafell drwy newid llif y dŵr poeth i’r rheiddiadur. Mae’r falfiau hyn yn cael eu camddefnyddio’n eang fel switshis ymlaen/diffodd. Yn lle hynny, dylid eu gosod i dymheredd is mewn ystafelloedd fel ystafelloedd gwely ac ardaloedd lle nad ydych yn byw i gyflawni’r arbedion mwyaf posibl.
Gall addasu falfiau nad ydynt yn yr ystafell fyw i 1.5°C yn oerach nag o’r blaen arbed £68 y flwyddyn oddi ar fil nwy nodweddiadol aelwyd arferol.
Mae gan bob falf ddeial, fel arfer wedi’i rifo o 1 i 5 neu 6. Lle mae falfiau wedi’u gosod ar 4 neu uwch ar hyn o bryd, rydym yn argymell troi’r deial i’r pwynt canol ar bob rheiddiadur heblaw’r ystafell fyw (ee, 3 ar ddeial hyd at 6). Bydd gosodiadau uwch yn gwresogi’r ystafell i dros 18°C, sy’n defnyddio mwy o ynni.
2. Trowch dymheredd llif y boeler ar foeleri combi i lawr i 60°C
Mae gan y mwyafrif o gartrefi’r Deyrnas Unedig foeleri combi (boeleri nwy sy’n darparu gwres a dŵr poeth yn ôl y galw, ac nid oes ganddynt danc dŵr poeth ar wahân). Ar hyn o bryd mae llawer wedi’u gosod gyda thymheredd llif – y tymheredd y mae’r boeler yn gwresogi dŵr sy’n cael ei anfon i’r rheiddiaduron iddo – o 70-80°C. Mae gostwng y tymheredd llif i 60°C neu lai yn gwneud i’r boeler redeg yn fwy effeithlon.
Mae gostwng tymheredd llif boeler combi o 75°C i 60°C yn arbed £97 y flwyddyn (neu 8% oddi ar eu bil nwy) i aelwyd arferol, os ydych yn fodlon derbyn tymheredd ystafell ychydig yn is.
Mae Nesta wedi creu offeryn ar-lein syml i helpu cartrefi i wneud y newid hwn. Ewch i offeryn Her Arbed Arian Boeleri i gymryd y cam hwn.
3. rowch dymheredd y dŵr poeth ar foeleri combi i lawr i 42°C
Mae boeleri combi hefyd yn galluogi defnyddwyr i reoli tymheredd y dŵr poeth a gyflenwir i dapiau a chawodydd. Mae gostwng tymheredd y dŵr poeth yn lleihau faint o danwydd sydd ei angen i gynhesu’r dŵr.
Gallai troi tymheredd y dŵr poeth i lawr ar foeler combi arbed £26, neu 2% oddi ar y bil nwy, y flwyddyn i aelwyd arferol.
4. Gostyngwch dymheredd y silindr dŵr poeth i 60°C
Gall cartrefi sydd â systemau gwresogi â silindr dŵr poeth ar wahân ostwng tymheredd y silindr ei hun fel nad yw dŵr yn cael ei gynhesu’n ddiangen. Ni ddylid gostwng y tymheredd yn is na 60°C, gan fod bacteria legionella, a all achosi clefyd y llengfilwyr, yn gallu goroesi a thyfu mewn dŵr cynnes sydd wedi’i storio o dan 60°C.
Gallai gosod eich silindr dŵr poeth i 60°C dorri 2% oddi ar ddefnydd nwy aelwyd, neu £26 oddi ar fil nwy nodweddiadol, bob blwyddyn.
5. Diffodd gosodiadau rhagboethi ar foeleri combis
Mae gan rai boeleri combi osodiad rhagboethi sy’n galluogi defnyddwyr i gael dŵr poeth ar unwaith, yn hytrach nag aros ychydig eiliadau i’r tapiau redeg yn boeth. Er mwyn gwneud hyn, mae’r boeler yn tanio’n rheolaidd i gynhesu ychydig bach o ddŵr poeth, hyd yn oed pan nad yw’r tapiau’n cael eu defnyddio. Gall diffodd y gosodiad rhagboethi helpu i arbed rhywfaint o ynni i aelwydydd heb unrhyw gost ychwanegol. Mae The Heating Hub wedi creu rhai cyfarwyddiadau pwrpasol gwych ar sut i ddiffodd y gosodiad hwn ar wahanol fathau o foeleri: Vaillant, Ideal a Worcester.
Gallai diffodd y gosodiad rhagboethi arbed 0.8% neu £10 y flwyddyn oddi ar fil nwy arferol.
Datrysiadau cost isel
Os gallwch fuddsoddi hyd at £300 mewn rhywfaint o dechnoleg glyfar, gallai thermostat clyfar arbed 5.3% (neu hyd at £64) ar fil nwy aelwyd arferol bob blwyddyn. Mae gan fodelau rheolyddion gwresogi mwy newydd, fel Nest fersiwn 3, dechnoleg hyd yn oed yn fwy clyfar a all fodiwleiddio boeleri cydnaws (yn y bôn yn troi’r fflam yn eich boeler i lawr, fel pan fyddwch yn troi’r nwy i lawr ar eich hob). Yn olaf, mae gosod inswleiddiad llofft yn sicr yn werth y drafferth. Ar gyfer tŷ ar wahân heb ychydig o insiwleiddio llofft, gall gwaith DIY i ychwanegu at yr inswleiddiad o 50-100m i 300mm gostio tua £200, ac arbed £81 oddi ar fil nwy blynyddol arferol.
I ddarllen mwy am y canfyddiadau hyn, gallwch ddarllen yr adroddiad llawn ar wefan Nesta.
Sylwch fod y safbwyntiau a’r cyngor yn y blogbost hwn yn cael eu darparu gan Nesta ac nad ydynt i’w priodoli i bartneriaid yr Ymgyrch Arbed Arian Boeleri.

MAE’R CANLLAW CAM WRTH GAM HWN YN ESBONIO SUT I NEWID TYMHEREDD LLIF EICH BOELER
Mae’n gyflym, am ddim ac yn hawdd i’w wneud. Gellir ei newid yn ôl yn syth os oes angen, felly ‘does dim i’w golli o roi cynnig arni.
Sut I newid gosodiadau eich boeler yn fwy rheolaidd I arbed mwy o arian

*Roedd y ffigurau hyn yn gywir adeg cyhoeddi’r blog, ond gellir gweld y ffigurau diweddaraf yma.*
10 Hydref 2022
Mae Her Arbed Arian Boeleri Nesta yn annog cartrefi i ostwng tymheredd llif eu boeleri combi cyddwyso i 60°C. Gallwch ddefnyddio yr offeryn cam wrth gam syml hwn i wneud y newid hwn.
Gallai aelwydydd arbed tua 9% ar gyfanswm eu bil nwy drwy ostwng tymheredd llif eu boeler combi os yw wedi’i osod ar 80°C ar hyn o bryd. Gallai aelwyd arferol arbed tua £65 y flwyddyn drwy addasu gosodiadau llif y boeler i 60°C neu’n is. Fodd bynnag, gall cartrefi arbed hyd yn oed mwy os gallant fynd yn is na 60°C. Mae’r blogbost hwn yn esbonio sut i arbed hyd yn oed mwy o arian trwy ostwng y tymheredd llif yn fwy rheolaidd.
Sut i arbed mwy o arian drwy newid eich tymheredd llif yn amlach
Er y gallai gostwng eich boeler i dymheredd llif o 60°C leihau eich defnydd o nwy tua 9% (gan arwain at arbediad o tua £65 y flwyddyn i aelwyd arferol), gallai gostwng tymheredd y llif i 55°C arbed hyd yn oed mwy. Mae’r tabl isod yn nodi’r arbedion a fesurwyd gennym mewn safle arbrofi, Salford Energy House, ar dymereddau llif gwahanol.
Profion Salford Energy House – nwy a arbedwyd ar dymereddau llif gwahanol y boeler
Tymheredd llif cychwynnol | Tymheredd llif is | Arbediad canrannol nwy a ddefnyddir ar gyfer gwresogi yn unig | Arbediad nwy cyffredinol, gan dybio bod gwresogi yn cyfrif am 75% o gyfanswm y defnydd o nwy |
80°C | 70°C | 5% | 3.9% |
80°C | 60°C | 12% | 9.1% |
80°C | 55°C | 16% | 12.1% |
80°C | 50°C | 23% | 17.4% |
Gallai arbediad nwy o 12% gyfateb i tua £150 oddi ar y bil nwy blynyddol cyfartalog. Mae’n bosibl y bydd rhai cartrefi sydd wedi’u hinswleiddio’n wael yn gweld bod rheiddiaduron 55°C yn rhy oer i’w cartref pan fydd hi’n oer iawn y tu allan. Pan nad yw’r rheiddiaduron yn ddigon cynnes i gynhesu’ch ystafelloedd efallai y bydd yn cymryd ychydig mwy o amser i gynhesu’r ystafell ac efallai na fyddant yn cyrraedd y tymheredd y mae’r thermostat wedi’i osod iddo.
Mewn misoedd cynhesach, gallwch wneud arbedion mwy trwy ostwng eich tymheredd llif (ee, i lawr i 50°C). Er enghraifft, gallech osod eich tymheredd llif i 50°C ym mis Hydref, ei godi i 55°C ym mis Tachwedd ac yna ei godi i 60°C ar ddiwrnodau oeraf y flwyddyn. Fel hyn rydych yn gwneud arbedion mwy ar y dyddiau cynhesach. Mae’n ddiogel ac yn hawdd newid gosodiadau tymheredd llif eich boeler sawl gwaith yn ystod y flwyddyn.
Y ffordd orau o weithio allan pa dymheredd llif sy’n gweithio i chi mewn gwahanol dymhorau yw ceisio lleihau tymheredd y llif mewn cynyddrannau o 5°C. Gadewch ef yn y lleoliad newydd hwn am ychydig ddyddiau i weld a ydych yn hapus gyda thymheredd yr ystafelloedd yn eich tŷ. Gallwch barhau i wneud hyn hyd i chi ganfod tymheredd sy’n gweithio ar eich cyfer chi a’ch cartref.
Mae yna dechnoleg a all wneud y newid i chi!
Os oes gennych foeler “modylu” modern, gallwch gael peiriannydd gwresogi i osod dyfais a fydd yn addasu eich tymheredd llif yn awtomatig. Mae dwy dechnoleg o’r fath yn bodoli – a elwir yn cyfadfer llwyth neu gyfadfer tywydd. Bydd y ddau yn arbed ynni mewn ffordd debyg i leihau tymheredd y llif â llaw. Mae’r dyfeisiau hyn yn sicrhau eich bod yn defnyddio tymheredd llif is pan fo’n bosibl – heb fod angen i chi wneud unrhyw newidiadau i’ch gosodiadau â llaw.
Sylwch fod y safbwyntiau a’r cyngor yn y blogbost hwn yn cael eu darparu gan Nesta ac nad ydynt i’w priodoli i bartneriaid yr Ymgyrch Arbed Arian Boeleri.

MAE’R CANLLAW CAM WRTH GAM HWN YN ESBONIO SUT I NEWID TYMHEREDD LLIF EICH BOELER
Mae’n gyflym, am ddim ac yn hawdd i’w wneud. Gellir ei newid yn ôl yn syth os oes angen, felly ‘does dim i’w golli o roi cynnig arni.
Tŷ arbrawf: sut gwnaethom ddefnyddio labordy arbrofi yn salford I nodi effeithiau newid tymheredd llif boeler

10 Hydref 2022
Dychmygwch rywle lle gallech chi brofi pob math o dechnoleg gwresogi cartrefi mewn amodau bywyd go iawn i ddarganfod faint yn union o ynni maen nhw’n ei ddefnyddio. Dyna yn union yw The Energy House ym Mhrifysgol Salford – tŷ pen teras Fictoraidd wedi ei atgynhyrchu, a’i osod mewn siambr amgylcheddol o fewn warws mawr, lle gellir efelychu amrywiaeth o amodau tywydd a thymheredd, o wynt, glaw ac eira i haul.

Mae’r tŷ ei hun yn dŷ dwy ystafell wely wedi’i adeiladu’n draddodiadol gyda waliau brics solet, lloriau pren crog a ffenestri gwydr sengl gyda system gwres canolog ‘gwlyb’ gonfensiynol yn cael ei thanio gan foeler nwy. Roedd hyn yn ei gwneud yn lle perffaith i brofi effeithiau gostwng tymereddau llif boeler.

Fel rhan o genhadaeth Nesta i ddatgarboneiddio gwresogi cartrefi yn y Deyrnas Unedig, roeddem am ddarganfod faint o nwy y mae’r cartref yn ei ddefnyddio (neu’n ei arbed) ar dymereddau llif boeler gwahanol, yn ogystal ag effeithiau gwneud hynny ar allyriadau carbon, ac amseroedd cynhesu a thymheredd ystafelloedd. Diolch i’r amgylchedd y gellir ei addasu, roedd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Salford yn gallu cynnal cyfres o brofion gyda thymheredd awyr agored o 4.5°C, i efelychu tymheredd gaeaf cyfartalog y Deyrnas Unedig. Gosodwyd y thermostat i 21°C yn yr ystafell fyw ac addasu falfiau rheiddiadur thermostatig i gyfyngu’r tymheredd i tua 18°C ym mhob ystafell arall. Yna fe wnaethant amrywio tymheredd llif y boeler rhwng 80°C a 50°C i asesu’r gwahaniaeth yn y defnydd o nwy ar wahanol dymereddau.
Canfu’r astudiaeth fod gostwng tymheredd llif y boeler o 80°C i 60°C yn defnyddio 12% yn llai o nwy i gynhesu The Energy House am yr un faint o amser. Roedd hyn yn bennaf oherwydd gwell effeithlonrwydd boeleri, yn hytrach na gostyngiadau mewn tymheredd aer mewnol (er bod y tŷ wedi cymryd ychydig funudau’n hwy i gynhesu yn y bore a gyda’r nos). A chymryd bod 75% o’r defnydd nwy mewn cartrefi ar gyfer gwresogi gofod — a’r gweddill ar gyfer dŵr poeth a choginio — byddai hyn yn trosi i arbediad o 9% ar filiau nwy cyffredinol.
Mae canfyddiadau llawn yr ymchwil hwn wedi’u nodi yn Adroddiad Salford Energy House, ac i ddarllen crynodeb o hynny a thystiolaeth arall, gweler Her Arbed Arian Boeleri: Tystiolaeth ategol.

MAE’R CANLLAW CAM WRTH GAM HWN YN ESBONIO SUT I NEWID TYMHEREDD LLIF EICH BOELER
Mae’n gyflym, am ddim ac yn hawdd i’w wneud. Gellir ei newid yn ôl yn syth os oes angen, felly ‘does dim i’w golli o roi cynnig arni.