Os yw eich cartref yn cymryd yn hwy i wresogi
Os yw eich cartref yn cymryd yn rhy hir i wresogi, ceisiwch osod eich gwres ymlaen 15 i 30 munud yn gynharach nag arfer.
Darllen mwy am amser gwresogi
Amser gwresogi
Drwy osod eich gwres ymlaen ychydig yn gynharach nag arfer rydych yn caniatáu amser gwresogi mwy graddol i gyd-fynd â tymheredd llif is eich boeler. Bydd hyn yn lleihau eich arbedion nwy rhywfaint, ond dylai o hyd arbed arian yn gyffredinol am y bydd eich boeler yn gweithredu'n fwy effeithlon.
Os oes gennych falfiau rheiddiadur thermostatig
Gwell ystyried falfiau rheiddiadur fel thermostatau ystafelloedd unigol, lle mae pob rhif y dynodi tymheredd penodol ac ar y tymheredd hwnnw bydd y rheiddiadur yn "diffodd". Nid yw'r falfiau rheiddiadur yn newid tymheredd eich rheiddiadur, na pha mor gyflym bydd eich ystafell y cynhesu. Gwell peidio â gosod y rhain i'w gosodiad uchaf, ond yn hytrach tuag at ganol y raddfa. 3 fydd hwn ar y mwyafrif o falfiau rheiddiadur.
Darllen mwy am falfiau rheiddiadur
Mwy am falfiau rheiddiadur
Os byddwch yn canfod fod rhai ystafelloedd yn rhy oer, gallwch droi eich falfiau rheiddiadur i fyny ychydig yn uwch. Os ydych am gyflawni arbedion ychwanegol, gallwch droi eich falfiau rheiddiadur i lawr ychydig mewn ystafelloedd na chaiff eu defnyddio (e.e. gosodiad 1). Nid yw eu diffodd yn llwyr yn syniad da am y bydd yn achosi gwahaniaeth tymheredd mawr rhwng ystafelloedd. Gall hyn dynnu'r gwres o'ch ystafelloedd cynhesach a chynyddu eich defnydd o ynni. Gall hefyd achosi problemau gyda mowld a lleithder.
Oe yw eich cartref yn teimlo'n oerach nag o'r blaen
Os ydych eisoes wedi ceisio gosod eich gwres i gychwyn 15 i 30 munud yn gynharach nag arfer, gallwch geisio codi'r tymheredd llif 5°C. Gadewch ef ar y gosodiad newydd hwn am ychydig ddyddiau i weld a fydd eich cyfforddusrwydd yn gwella. Gallwch barhau i wneud hyn hyd i chi ganfod tymheredd sy'n gweithio ar eich cyfer chi a'ch cartref.
Os ydych am arbed hyd yn oed mwy
Gellir gwresogi nifer o gartrefi gyda thymheredd llif o 55°C neu'n is. Po isaf y gosodiad, mwyaf yr arbedion. Ceisiwch leihau'r tymheredd eto fesul 5°C.